
Dathlu degawd o waith 'anhygoel' y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dathlu degawd o waith 'anhygoel' y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Fe fydd Senedd Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig ddydd Mawrth i ddathlu pen-blwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddeg oed.
Cafodd y coleg ei sefydlu yn 2011 ond cafodd dathliadau'r llynedd eu gohirio oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Pan gafodd ei sefydlu y nod oedd cynyddu'r ddarpariaeth o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn prifysgolion.
Yn dilyn degawd o waith yn y sector, yn ôl y coleg mae bellach modd astudio rhan o gwrs gradd mewn 33 allan o 37 prif grŵp pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r coleg yn dweud bod y nifer o fyfyrwyr sydd yn astudio rhywfaint o'u cwrs yn y Gymraeg hefyd wedi cynyddu - o 3,005 yn 2011/12 i 4,740.
Un o'r rhai sydd wedi elwa o'r 1,900 o ysgoloriaethau mae'r coleg wedi darparu dros y deng mlynedd diwethaf yw Annell Dyfri, Swyddog y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Annell fod y coleg wedi cael effaith "anferth" ar y ddarpariaeth o addysg trwy'r Gymraeg mewn prifysgolion.
"Fi'n credu mai llawer mwy o bobl yn ymwybodol nawr bod modd astudio gradd yn Gymraeg," meddai.
Ychwanegodd Annell ei bod yn credu y gall y coleg fwrw ymlaen i ddenu mwy o bobl i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Y gamp nawr yw perswadio mwy o siaradwyr Cymraeg i fentro i astudio rhan o'u cwrs yn Gymraeg," dywedodd.

"Fi'n credu yn y bôn mae'n ymwneud â diffyg hyder falle, a diffyg dealltwriaeth o fanteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg."
"Mae mor bwysig nawr gyda tharged miliwn o siaradwyr Cymraeg bod pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn broffesiynol."
"A fi'n credu mai'r Coleg Cymraeg yn chwarae rôl allweddol yn trosglwyddo'r neges honno."
'Cadw'r iaith yn fyw yn broffesiynol a chymdeithasol'
Wrth ddathlu llwyddiant y degawd diwethaf, dywedodd prif weithredwr y coleg, Dr Ioan Mathews eu bod nawr yn anelu i ehangu'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn y sector ôl-16 oed.
Mae'r coleg bellach yn ariannu 20 o swyddi darlithio mewn colegau addysg bellach ac mae dros ddeng mil o ddysgwyr wedi elwa o brosiectau prentisiaethau a gynhaliwyd gan y coleg.
"Mae addysg cyfrwng Cymraeg prifysgol yn cael ei gydnabod nawr fel rhywbeth sy’n hollol dderbyniol ac i’w groesawu ac mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa o’r ddarpariaeth a ddatblygwyd ers sefydlu’r Coleg," meddai Dr Mathews.
"Mae hynny wedi paratoi’r tir i'r Coleg allu camu i faes addysg ôl-16, ac ar gychwyn degawd newydd dyma ydy un o’n prif flaenoriaethau.”
"Os yw myfyriwr yn mentro i fyd gwaith ar ôl cwblhau eu cwrs addysg bellach, brentisiaeth neu radd trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, yna’r gobaith yw y byddan nhw’n aros yn eu cymunedau gan sicrhau swyddi dwyieithog.
"Magu teulu dwyieithog yn lleol, dod yn rhan o’r gymuned a chadw’r Gymraeg yn iaith fyw ar lefel broffesiynol a chymdeithasol."
Wrth siarad cyn y digwyddiad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles, fod y coleg yn chwarae rôl flaengar yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith.
"Mae’r Coleg yn gwneud gwaith hollbwysig o fewn y sectorau addysg bellach ac uwch, a phrentisiaethau, i gyfrannu at amcan y Llywodraeth i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
"Mae gan weithwyr mewn amryw o sectorau y sgiliau a’r hyder i weithio trwy’r Gymraeg diolch i waith y Coleg dros y degawd diwethaf.”