AS wedi marw yng nghanol protestiadau treisgar yn Sri Lanka

Mae Aelod Seneddol yn Sri Lanka wedi marw yn dilyn diwrnod o brotestiadau a thrais difrifol yn y wlad.
Roedd Amarakeerthi Athukorala yn 58 oed.
Dechreuodd y gwrthdaro wedi ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Mahinda Rajapaksa, ddydd Llun yn sgil argyfwng economaidd yn y wlad.
Mae'r argyfwng ariannol wedi arwain at nifer o brotestiadau yn erbyn y llywodraeth, gyda nifer ohonynt yn troi yn dreisgar.
Cafodd tanau hefyd eu cynnau yn nifer o dai gwleidyddion blaenllaw.
Mae Arlywydd Sri Lanka bellach wedi cyhoeddi 'stad o argyfwng yn y wlad a chyrffyw cenedlaethol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Getty Images / Wochit