Dechrau trydydd diwrnod o chwilio am ddyn yn Afon Teifi

Aberteifi

Bydd y gwaith o chwilio am ddyn yn Aberteifi, yn dilyn pryderon ei fod wedi mynd i mewn i’r afon yno, yn ailgychwyn am y trydydd diwrnod ddydd Mawrth.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys dderbyn adroddiad am tua 05.15 fore Sul bod dyn wedi mynd i’r dŵr yn Aberteifi yng Ngheredigion.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw, ynghyd â gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân, Gwylwyr y Glannau a’r Bad Achub, wedi bod yn chwilio Afon Teifi sy'n llifo drwy'r dref ers hynny.

Er gwaethaf yr ymdrechion i chwilio, dywedodd yr heddlu nad oedd y dyn wedi’i ddarganfod erbyn nos Lun.

Mae swyddogion wedi siarad â theulu’r dyn y maent yn credu aeth i’r dŵr, ac maent yn cael eu cefnogi wrth i’r ymgyrch barhau.

Ychwanegodd yr heddlu fod disgwyl i’r chwilio ailgychwyn ddydd Mawrth.

“Byddwn yn hoffi diolch i’r rhai sydd wedi helpu drwy gydol y dydd, ac rydym yn gofyn i aelodau’r cyhoedd gadw draw o’r ardal – yn enwedig glannau’r afon – er eu diogelwch eu hunain,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu swyddogion, neu os mai chi yw’r person a aeth i’r dŵr ac sydd bellach yn ddiogel, cysylltwch â ni.”

Dylai unrhyw un sy’n cysylltu â’r llu ddyfynnu’r cyfeirnod 52, ynghyd â’r dyddiad, 4 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.