Syr Keir Starmer i ymddiswyddo os yw'n derbyn dirwy gan Heddlu Durham
Mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi cadarnhau y byddai'n ymddiswyddo petai'n cael dirwy gan yr heddlu yn sgil honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid-19.
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Syr Keir Starmer ei fod "bob amser wedi dilyn y rheolau" a bod pobl wedi gorfod gwneud "aberthau torcalonnus".
Dywedodd Mr Starmer ei fod yn credu mewn "hygrededd" ac y dylai pobl sy'n creu'r rheolau "ddilyn y rheolau".
Cafodd Syr Keir Starmer ei ffilmio yn swyddfa Aelod Seneddol Durham, Mary Foy, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer isetholiad Hartlepool yn Ebrill 2021.
Mae honiadau ei fod e wedi archebu pryd ac yfed cwrw yn y swyddfa yng nghwmni pobl eraill.
Mae Syr Keir Starmer yn mynnu mai egwyl o'i waith oedd hyn ac fe aeth pobl ati i barhau â'u gwaith ar ôl iddyn nhw gael bwyd.
Mewn datganiad ym mhencadlys y Blaid Lafur brynhawn Llun, fe ddywedodd y byddai'n ildio'r awenau petai'n derbyn dirwy gan Heddlu Durham wedi iddyn nhw gyhoeddi y byddan nhw'n ail-agor ymchwiliad i'r digwyddiad honedig.
Dywedodd Syr Keir ei bod hi'n glir fod y rheolau cyfnod clo i gyd wedi eu dilyn ar y pryd ac mae'n gwadu eu torri.
Dywedodd ei fod am ddangos nad yw pob gwleidydd "yr un fath â'i gilydd" ar ôl i'r Prif Weinidog Boris Johnson wrthod ymddiswyddo wedi iddo dderbyn dirwy gan Heddlu'r Met am dorri rheolau Covid-19.
This is what integrity looks like. Boris Johnson take note https://t.co/VcVDRyhNAO
— Carwyn Jones 🏴 (@AMCarwyn) May 9, 2022
Mae'r cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones wedi dweud ar Twitter mai "dyma sut mae hygrededd yn edrych".
Yn ôl adroddiadau, mae ei ddirprwy Angela Rayner hefyd wedi dweud y byddai'n ymddiswyddo pe bai'n cael dirwy gan yr heddlu.
Llun: Rwendland