Canolfan arloesi newydd i Gymru ym maes seiber-ddiogelwch
Yn fuddsoddiad gwerth £9.5 miliwn, bydd Canolfan Arloesi Seiber newydd yn cael ei hagor yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.
Y nod yw cynorthwyo Cymru i ddod yn "arweinydd byd-eang " ym maes seibr-ddiogelwch.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn yn y Ganolfan newydd dros ddwy flynedd, gyda £3 miliwn o gyllid ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a £3.5 miliwn o arian cyfatebol gan bartneriaid y consortiwm.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y fenter yn ystod diwrnod cyntaf Cynhadledd Seiber-ddiogelwch - CYBERUK 2022, sy'n cael ei chynnal yng Nghasnewydd.
Mae'r Ganolfan Arloesi Seiber newydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd gyda phartneriaid yn cynnwys Airbus, Alacrity Cyber, CGI, Thales NDEC, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.
Y bwriad yw hyfforddi dros 1,000 o unigolion yn y maes a datblygu'r sector seibr-ddiogelwch yng Nghymru.
Mae 51 o fusnesau sy'n gysylltiedig â seiber wedi'u lleoli yng Nghymru, sy'n cyflogi 4% o weithwyr proffesiynol seiber-ddiogelwch y DU.
Yn ôl Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae'r fenter hon yn hanfodol i dwf y sector seibr-ddiogelwch yn y rhanbarth.
"Rydym yn falch iawn o fod yn cyd-ariannu'r fenter newydd arloesol hon,"meddai
"Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn cael eu cydnabod gan y Ganolfan Seiber-ddiogelwch Genedlaethol (rhan o GCHQ) fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd mewn ymchwil ac addysg.
"Mae eu gwaith yn sail i ymchwil arloesol sydd wedi arwain at gwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig ac wedi'u trosi'n fusnesau mwy. Mae hyn yn creu cadwyn gyflenwi gref a chynaliadwy yng Nghymru".
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor bwysig yw arloesi ym maes seiber o ran cefnogi a diogelu rhannu gwybodaeth tra'n cynnig data a mewnwelediad i helpu i gadw'r rhanbarth i symud a thyfu."
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies: "Rwy'n falch iawn o weld y ganolfan newydd fyd-eang hon yn agor gyda chefnogaeth fel rhan o fuddsoddiad £375m Llywodraeth y DU i fargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd hyn yn dod â swyddi a thwf i'r ardal yn ogystal â rhoi Cymru wrth galon y diwydiant seiber-ddiogelwch."
Pwysleisiodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd bod y fenter yn cyd-fynd a'i strategaeth arloesi ac y bydd yn ysgogi partneriaethau masnachol.