Newyddion S4C

Gwasanaethau brys yn ymateb i 'ollyngiad cemegol' mewn ysgol yng Ngwynedd

09/05/2022
Ysgol Syr Hugh Owen

Fe fu'r gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd ddydd Llun yn dilyn adroddiadau fod cemegyn wedi gollwng ar y safle.

Roedd brigâd dan, parafeddygon a swyddogion heddlu yn bresennol yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn dilyn y digwyddiad.

Fe gadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei fod wedi'i alw i Gaernarfon am 11:26 ond fod y cemegyn wedi ei ddiogelu gan staff yr ysgol cyn i'r frigâd gyrraedd.

Dywedon nhw fod cyngor wedi ei rannu gan staff ar y safle, ac nad oedd angen cymryd camau pellach.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn adroddiadau o ollyngiad cemegol ychydig wedi 11:50.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu bod swyddogion wedi mynychu i gynorthwyo gyda rheolaeth traffig tra bo'r safle'n cael ei reoli gan y gwasanaeth tân.

Yn ôl adroddiadau fe wnaeth saith o bobl derbyn triniaeth yn sgil y digwyddiad, ond nid oedd rhaid iddynt fynd i'r ysbyty.

Mae'r digwyddiad nawr ar ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.