Teyrnged teulu i 'ddyn ifanc caredig' fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55
Mae teulu dyn ifanc fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 yn Sir Conwy ddydd Sul wedi rhoi teyrnged i'r "dyn ifanc caredig".
Roedd Robert Christopher Adams yn 19 oed ac yn byw yn ardal Bae Cinmel.
Dywedodd ei deulu fod marwolaeth Robert wedi "creu gwacter enfawr yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi".
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Roedd Robert yn ddyn ifanc golygus oedd â chymaint i edrych ymlaen tuag ato. Roedd yn hynod o garedig, hael ac egnïol. Roedd bob amser am helpu eraill ac yn hael iawn â'i amser - roedd ganddo galon euraidd.
"Roedd Robert fel unrhyw ŵr ifanc arall - roedd yn hoff iawn o geir ac yn mwynhau gyrru ac yn falch iawn o gael dyrchafiad diweddar yn ei swydd fel gosodwr teiars."
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ddigwyddodd rhwng car Vauxhall Astra gwyn a lori HGV ar ffordd ddwyreiniol yr A55 yn ystod oriau man fore Sul.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu gamera dashfwrdd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ddefnyddio rhif cyfeirnod 22000314137.