Dyn 18 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy
09/05/2022
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth dyn 18 oed mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 13:30 ar Ffordd Brynbuga yn Drenewydd Gelli-farch rhwng Peugeot 5008 a Ford Focus ddydd Sul.
Bu farw dyn 18 oed o Gaerffili yn y fan a’r lle.
Mae dyn 30 oed, dyn 54 oed a menyw 51 wedi eu hanafu ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad neu sydd gyda lluniau dashcam i gysylltu gydag Uned Blismona'r Ffyrdd gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200152615.