Newyddion S4C

Dr Who

Penodi Ncuti Gatwa fel y Doctor Who nesaf

NS4C 08/05/2022

Mae'r BBC wedi cyhoeddi mai'r actor Ncuti Gatwa fydd y Doctor nesaf yng nghyfres boblogaidd Doctor Who.

Gatwa fydd y pedwerydd Doctor ar ddeg i chwaerae'r cymeriad pan fydd yn ymuno ar gyfer y gyfres newydd yn 2023, gan ddilyn Jodie Whittaker yn y prif ran.

Yr actor o'r Alban, sydd yn enedigol o Rwanda, fydd yr actor du cyntaf i chwarae'r rhan yn llawn amser.

Fe fydd yn dychwelyd i'r gyfers gyda'r Cymro Russell T Davies wrth y llyw unwaith eto. 

Wrth ddisgrifio ei benodiad, dywedodd Ncuti: “Does dim digon o eiriau i ddisgrifio sut rydw i'n teimlo. Cymysgedd o anrhydedd, cyffro ac wrth gwrs, ychydig o ofn.

"Mae’r rôl a’r sioe hon yn golygu cymaint i gymaint o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fi fy hun, ac mae pob un o’m rhagflaenwyr hynod dalentog wedi ymdrin â’r cyfrifoldeb a’r fraint unigryw honno yn ofalus iawn. Fe wnaf fy ngorau glas i wneud yr un peth.

"Mae Russell T Davies bron mor eiconig â'r Doctor ei hun ac mae gallu gweithio gydag ef yn gwireddu breuddwyd. Mae ei waith ysgrifennu yn ddeinamig, yn gyffrous, yn hynod ddeallus ac yn llawn perygl."

Dywedodd Russell T Davies, fydd yn gyfrifol am y gyfres newydd ar ôl ei thrawsnewid i fod yn gyfres mor llwyddianus o 2005 ymlaen: “Mae’r dyfodol yma a'i enw yw Ncuti!

"Mae'n anrhydedd gweithio gydag ef, ac yn llawer o hwyl, ac ni allaf aros i ddechrau. Rwy’n siŵr eich bod yn awchu i gael gwybod mwy...ond dwi’n addo i chi, bydd 2023 yn syfrdanol!”

Llun: BBC

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.