Gorchymyn gwasgaru i rannau o Wrecsam ar gyfer gêm dyngedfennol ddydd Sul
Bydd swyddogion ychwanegol o Heddlu Gogledd Cymru ar batrôl a gorchymyn gwasgaru mewn rhannau o Wrecsam ar gyfer gêm dyngedfennol i glwb pêl-droed y dref ddydd Sul.
Bydd Wrecsam yn croesawu Stockport County yn eu gêm olaf ond un yn y Gynghrair Genedlaethol, gyda’r gic gyntaf am 12.30.
Mae’r gêm ar y Cae Ras yn hollbwysig i’r ddau glwb, ac fe allai benderfynu pwy sydd yn gorffen ar frig y Gynghrair eleni gan sicrhau dyrchafiad.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Nick Evans o Heddlu'r Gogledd: “Diogelwch cefnogwyr yw ein prif bryder bob amser, yn enwedig pan fo’r stadiwm yn llawn.
“Mae’r ddwy ochr wedi gwneud yn arbennig o dda y tymor hwn a dylai’r gêm hon fod yn wych.
“Dylai mynychu gemau ar y Cae Ras fod yn achlysur pleserus i bawb ac mae ein swyddogion yno i sicrhau bod anhrefn o unrhyw fath yn cael ei drin yn gadarn.
“Lle mae anhrefn yn digwydd byddwn yn gweithio ar y cyd â’r clwb i ddod o hyd i bobl a ddrwgdybir, gan ddwyn achos troseddol a Gorchmynion Gwahardd Pêl-droed i’r rhai dan sylw.
'Uchel, balch a chefnogol'
Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Fleur Robinson: “Mae ein cefnogwyr wedi chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiannau ar y cae y tymor hwn, ac rydym yn galw ar bawb ar y Cae Ras i fod yn uchel, yn falch ac i'n cefnogi yn y ffordd orau eto.
“Mae ein safiad dim goddefgarwch tuag at ymddygiad annerbyniol gan unrhyw un sy’n mynychu gemau ar y Cae Ras neu oddi cartref wedi’i wneud yn glir drwy’r tymor."
“Erbyn hyn mae mwy na 40 o orchmynion gwahardd mewn lle, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n tîm diogelwch a’r heddlu i sicrhau bod y Cae Ras yn amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb...does dim angen lleiafrif bach i ddifetha’r diwrnod oddi ar y cae, naill ai y tu mewn neu tu allan i’r maes – ennill, colli neu gêm gyfartal.
“Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam hefyd yn ymwybodol o’r duedd gynyddol mewn anhrefn sy’n gysylltiedig â phobl ifanc ar ddiwrnodau gêm y tymor hwn, fel yr amlinellwyd yn natganiad blaenorol Heddlu Gogledd Cymru; ac yn gweithio gyda nhw i nodi rhagor o unigolion yn y grŵp hwn sy’n peri pryder.
“Cefnogwch y clwb, yr heddlu a’n cymuned yn yr amcanion hyn os gwelwch yn dda.”
Mae wyth Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed wedi'u cyhoeddi gan y llysoedd y tymor hwn ar gyfer digwyddiadau mewn gemau yn ymwneud â Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae hyn yn ychwanegol at orchmynion gwahardd gan y clwb.
Bydd gorchymyn gwasgaru mewn grym ar gyfer rhannau o Wrecsam ddydd Sul i atal cynnydd posib mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r ardaloedd dan sylw mewn coch isod.