Y Taliban yn gorchymyn menywod Affganistan i orchuddio'u hwynebau

Mae llywodraeth Taliban Affganistan wedi gorchymyn menywod y wlad i orchuddio'u hwynebau gan adlewyrchu eu rheolau caeth oedd yn bodoli'n y wlad yn flaenorol.
Yn ystod y cyfnod diwethaf pan roedd y Taliban mewn grym rhwng 1996-2001, roedd yn orfodol i fenywod wisgo burqa'n gyhoeddus.
Mae mwyafrif o fenywod y wlad yn gwisgo gorchuddion dros eu pen ond nid eu hwynebau, ac mae'r cyhoeddiad diweddaraf wedi ennyn beirniadaeth gan lywodraethau gorllewinol, arweinwyr crefyddol a llywodraethau nifer o wledydd Islamaidd eraill.
Dywed y Taliban eu bod wedi llacio'r angen i gydymffurfio gyda nifer o reolau caeth ers y tro diwethaf iddynt fod mewn grym, ond fe fydd y cyhoeddiad diweddaraf yn codi pryder ymysg grwpiau hawliau menywod ac yn ehangach am gyfeiriad y wlad.
Darllenwch ragor yma.