Newyddion S4C

O leiaf 22 wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn gwesty yn Havana, Ciwba

The New York Times 07/05/2022
Ffrwydriad yn Ciwba

Mae o leiaf 22 o bobol wedi eu lladd yn dilyn ffrwydrad mewn gwesty moethus yn Havana, prifddinas Ciwba.

Yn ôl adroddiadau, roedd tanc nwy tu allan i westy Saratoga yn Hen Havana wedi ffrwydro gan ddinistrio sawl llawr o’r gwesty.

Mae 60 o bobol yn derbyn triniaeth mewn Ysbyty ac mae gwasanaethau brys yn chwilio am eraill.

Dywedodd swyddfa arlywydd y wlad fod menyw feichiog a phlentyn ymhlith y rhai fu farw.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Twitter
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.