Etholiadau Lleol 2022: Sinn Féin yw'r blaid fwyaf yng nghynulliad Gogledd Iwerddon

Sinn Féin yw'r blaid fwyaf yng nghynulliad Gogledd Iwerddon wrth i gyfrif holl bleidleisiau'r etholiadau lleol yno ddod i derfyn nos Sadwrn.
Mae Sinn Féin wedi ennill 27 o seddi a'r mwyaf y mae plaid unoliaethol y DUP yn medru eu hennill yw 25.
Mae canlyniad o'r fath yn ddaeargryn gwleidyddol yn y dalaith, gydag arweinydd y cynulliad yn dod o rengoedd plaid weriniaethol am y tro cyntaf mewn dros ganrif.
Y disgwyl oedd y byddai plaid y DUP yn agos i Sinn Féin, ond roedd y canlyniadau yn awgrymu buddugoliaeth gyfforddus i blaid Michelle O'Neill.
Fore dydd Sadwrn roedd Sinn Féin wedi sicrhau 29% o bleidlais dewis cyntaf yn y dalaith, gyda'r DUP yn ail ar 21%.
Er y canlyniad hanesyddol, fe fydd ffurfio llywodraeth yn Stormont yn dalcen caled gyda rhai unoliaethwyr yn gwrthod y syniad o rannu grym gyda phlaid oedd yn hanesyddol yn cael ei hystyried fel un oedd gyda chysylltiadau agos â grwpiau parafilwrol gweriniaethol.
Ac er mwyn ffurfio llywodraeth o dan gytundeb Dydd Gwener y Groglith, rhaid rhannu grym yn y cynulliad rhwng y pleidiau gweriniaethol ag unoliaethol.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Sinn Féin