Etholiadau Lleol 2022: 'Pen neu gynffon?' yn penderfynu canlyniad ward yn Sir Gâr
06/05/2022
Mae canlyniad ward yn Sir Gâr wedi ei benderfynu ar dafliad ceiniog a galw 'pen neu gynffon?'
Roedd dau ymgeisydd Llafur - David Darkin a Philip Warlow - yn gyfartal ar 596 o bleidleisiau'r un, a'r unig ffordd o ddatrys y sefyllfa oedd drwy hap.
Canlyniad y geiniog oedd mai Mr Warlow oedd yn fuddugol yn y pen draw, gan gipio un o dair sedd yn ward Bigyn.
Daeth ychydig o newyddion da i gyfeiriad Mr Warlow er ei siom - roedd ei fam, Janet Williams, yn fuddugol yn un o'r tair ward.
Am fwy o straeon o'r etholiad, ewch i is-hafan Etholiadau Lleol 2022 ar wefan Newyddion S4C.