Etholiadau Lleol 2022: Arweinydd Cyngor Powys yn colli ei sedd
06/05/2022
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi colli ei sedd i ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd Rosemarie Harris yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond fe gafodd ei disodli gyda gwahaniaeth o 86 o bleidleisiau gan Jackie Charlton yn ward Llangatwg a Llangynidr.
Dywedodd Ms Harris y byddai'r grŵp annibynnol yn chwilio am arweinydd newydd.
Ychwanegodd ei bod wedi ei thristhau gan y canlyniad ond y byddai'n cadw'n brysur gyda'i busnes teuluol.
Roedd wedi arwain y cyngor ers pum mlynedd ac roedd wedi bod yn gynghorydd sir am 23 o flynyddoedd cyn y canlyniad ddydd Gwener.