Yr heddlu i ymchwilio i honiadau fod Syr Keir Starmer wedi torri rheolau Covid-19

Mae Heddlu Durham wedi cyhoeddi y bydd Syr Keir Starmer yn destun ymchwiliad yn dilyn honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid-19.
Cafodd arweinydd y Blaid Lafur ei ffilmio yn yfed cwrw yn swyddfa Aelod Seneddol Durham, Mary Foy, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer is-etholiad Hartlepool yn Ebrill 2021.
Mae wedi gwadu'r honiad yn flaenorol, gan ddweud ei fod yn cael pryd o fwyd yn ystod saib o'i waith.
Yn wreiddiol, fe ddywedodd Heddlu Durham nad oeddynt yn credu fod Syr Keir wedi torri'r rheolau.
Ond, yn ôl The Telegraph, mae swyddogion bellach wedi dechrau ymchwiliad yn dilyn adroddiadau fod 30 pobl yn bresennol ar y pryd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.