Y Scarlets yn rhyddhau datganiad am gyflwr iechyd eu llywydd anrhydeddus, Phil Bennett

06/05/2022
S4C

Mae rhanbarth rygbi'r Scarlets wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod Phil Bennett, eu cyn-chwaraewr a'u llywydd anrhydeddus yn "brwydro fel gwir Scarlet" yn ystod cyfnod o waeledd, a bod eu "meddyliau a gweddïau gydag ef".

Mewn neges ar wefan Twitter fore Gwener, fe gadarnhaodd y rhanbarth fod Mr Bennet yn derbyn gofal gan ei deulu.

Roedd Phil Bennet yn un o gewri'r gamp yng Nghymru yn ystod y 70au, ac yn gyn-faswr gyda Chlwb Llanelli, Cymru a'r Llewod Prydeinig.

Ym mis Tachwedd 2005 fe gafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol, ac yn 2007 fe gafodd ei enwi yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Mae'r Scarlets wedi gofyn i bobl barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod yma.

​​​​​​Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.