Newyddion S4C

Gofyniad i wisgo masgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal i barhau

06/05/2022
Brechlyn Covid-19

Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau yng Nghymru.

Daw sylwadau’r Prif Weinidog ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos ddiweddaraf o’r rheoliadau Covid-19.

Dywedodd Mr Drakeford bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella erbyn hyn yn dilyn cynnydd diweddar mewn achosion.

Mae cyfraddau achosion Covid-19 yn parhau i fod yn uchel.

Ond mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd cadw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn helpu i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas.

Mae’r Prif Weinidog yn annog pawb i barhau i gymryd camau i leihau lledaeniad Covid-19 drwy ddilyn camau syml i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru.

Mae’r camau hyn yn cynnwys hunanynysu os ydych yn sâl neu wedi cael prawf Covid-19 positif, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur o dan do, cwrdd ag eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl, awyru mannau dan do a golchi dwylo’n rheolaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:“Nid yw’r pandemig ar ben ond rydym yn gweld rhai arwyddion calonogol bod y lefel uchel o heintiadau ar draws Cymru’n gostwng.

“Mae camau y gall pob un ohonom eu cymryd i’n diogelu ein hunain tra bod coronafeirws ar led, a lleihau lledaeniad y feirws ymhellach. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn y mannau lle mae’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu trin, ac yn byw. Dyma pam y byddwn yn cadw’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig iawn eich bod yn sicrhau eich bod wedi cael eich brechlynnau Covid a phigiad atgyfnerthu’r gwanwyn – os ydych yn gymwys. Os oes gennych symptomau Covid neu os ydych wedi cael prawf Covid positif, arhoswch gartref a helpu i dorri trosglwyddiad yr haint.

“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru.”

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau Covid-19 yn cael ei gynnal erbyn 26 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.