Gobaith am dros 450 o swyddi Airbus newydd i Sir y Fflint

Mae gobaith y gall rhwng 450-550 o swyddi newydd ddod i Sir y Fflint wrth i gwmni Airbus gyhoeddi eu bod yn cynyddu cynhyrchiant o'u hawyrennau A320.
Yn ystod y pandemig bu gostyngiad yn nifer yr awyrennau A320 yr oedd y cwmni'n ei gynhyrchu - o 60 i 40 y mis.
Arweiniodd hyn at ostyngiad yng ngweithlu'r cwmni ym Mrychdyn o 6000 i 4000 o weithwyr. Mae adenydd yr awyren yn cael eu hadeiladu yno.
Gyda chynnydd mewn galw am yr A320, mae Airbus yn gobeithio cynhyrchu 65 erbyn haf 2023 a 75 yn 2025.
Darllenwch ragor yma.