Newyddion S4C

Côr meibion yn dirwyn i ben wedi 47 o flynyddoedd o achos diffyg aelodau

05/05/2022
Cor

Mae un o gorau meibion y gorllewin wedi cyhoeddi y bydd yn dod i ben o achos diffyg aelodau yn dilyn y pandemig coronafeirws.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, cyhoeddodd swyddogion Côr Meibion Dyffryn Tywi fod y penderfyniad trist wedi ei wneud ar ôl bod mewn bodolaeth am 47 o flynyddoedd.

Dywedodd y swyddogion fod y penderfyniad wedi ei wneud mewn cyfarfod "emosiynol, anodd a thrist":

"Ar ôl 47 mlynedd o gyd-canu, hoffai'r aelodau presennol ddiolch i'r holl aelodau blaenorol, y ddwy Gyfarwyddwraig Cerddorol - Beti Lewis-Fisher a Davinia Davies, y ddau gyfeilydd - Raymond Richards a Maureen Chapman, y ddau Lywydd - Roy Davies a David Gravell am yr hyn y maent wedi eu gyflawni a chyfrannu i'r Côr."

Aelodau newydd

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd ysgrifenydd y côr, Derrick Rowlands: "Ni wedi bod yn chwilio am aelodau newydd ers blynyddoedd.

"Nid y pandemig yn unig sydd yn gyfrifol am y penderfyniad ond dyw e heb helpu. Mae'n gyfnod trist i ni gyd - mae tri aelod wedi bod yno o'r cychwyn.

"Ni'n griw clos ac mae pawb yn helpu ei gilydd. Y canu oedd yn dod gyntaf ond mae'r cyfeillgarwch a'r hwyl yn bwysig hefyd."

Ychwanegodd fod cymaint i ddifyrru pobl y dyddiau hyn fel nad oedd corau meibion yn gallu cystadlu'n aml.

"Mae dau neu dri o fechgyn ifanc wedi ymuno gyda ni ac maen nhw wedi mwynhau'n fawr. Mae tri côr yn agos i ni yn yr ardal a ni gyd yn cystadlu am yr un dynion.

"Fi wedi bod yn aelod o'r côr ers 27 o flynyddoedd ac yn ysgrifenydd ers 25 o flynyddoedd. Mae'r penderfyniad wedi bwrw's stwffin' mas ohonai a bod yn onest - mae'n amser trist ond s'dim lot allwn ei wneud."

Llun: Côr Meibion Dyffryn Tywi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.