Apêl ar ôl i berson ifanc ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd
05/05/2022
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i berson ifanc ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.
Cafodd y person 17 oed a pherson arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd yr B4413 yn Aberdaron ychydig wedi canol nos ddydd Sadwrn, 30 Ebrill.
Roedd y ddau yn teithio mewn Honda Civic Type-R du pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu welodd y car ychydig cyn y digwyddiad, i gysylltu.
Llun: S.Sputzer