Nofwyr i gynnal protest dros gynnydd mewn prisiau parcio ym Mae Colwyn

Mae grŵp o nofwyr lleol yn bwriadu cynnal protest dros y cynnydd mewn prisiau parcio ym Mae Colwyn.
O 9 Mai tan fis Medi, bydd rhaid talu o leiaf £3.70 er mwyn parcio ger lan y môr am hyd at bedair awr.
Yn y gorffennol, roedd modd i ymwelwyr dalu fesul awr i barcio, gydag un awr ddim ond yn costio 50 ceiniog.
Bydd grŵp nofio lleol Bay Blue Bits, sydd â 180 o aelodau, yn cynnal protest dros y newid ddydd Sul gan honni bod y cynnydd mewn pris yn "wahaniaethol" ac yn atal nifer o bobl rhag ymarfer corff yn hawdd.
Dywedodd llefarydd o Gyngor Conwy fod y newidiadau wedi'u gwneud fel bod prisiau ym Mae Colwyn yn gyson â phrisiau yn ardaloedd arall y sir.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Dot Potter