Cynllun Undeb Rygbi Cymru i dorri nifer y clybiau rhanbarthol o bedwar i dri

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnig torri nifer y clybiau rhanbarthol o bedwar i dri mewn cynllun bydd yn newid y gêm yng Nghymru.
Yr opsiynau, sy'n debygol o wynebu gwrthwynebiad sylweddol, yw cael gwared ar y Gweilch neu'r Dreigiau, neu uno'r Gweilch a'r Scarlets.
Mae Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch, a’r Scarlets wedi gweld niferoedd y torfeydd yn lleihau mewn gemau yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd pennaeth URC, Steve Phillips yn eu trafod gyda'r rhanbarthau'r wythnos nesaf, a gall y newidiadau ddod i rym ymhen dwy flynedd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.