Newyddion S4C

Etholiadau Lleol: Blychau pleidleisio wedi agor

05/05/2022
S4C

Mae'r blychau pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol Cymru bellach wedi agor.

Mae arweinwyr y prif bleidiau a chynrychiolwyr annibynnol yn gobeithio cael ei ethol yn gynghorwyr lleol ar gyfer 22 o gynghorau sir Cymru.

Mae 1,234 sedd mewn 762 o wardiau cynghorau lleol yn y fantol i'r pleidiau, gyda rhai seddi'n cynnwys mwy nag un ward.

Cafodd y blychau pleidleisio ei agor am 07:00 fore ddydd Iau a bydd yn cau am 22:00 i'r rhai hynny sydd heb fwrw eu pleidlais drwy'r post yn barod.

Ni fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif tan ddydd Gwener, ac fe fydd y darlun llawn yn dod yn eglur i'r pleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr erbyn nos Wener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.