Newyddion S4C

'Rhyfeloedd mawn' Iwerddon yn codi gwrychyn yng nghefn gwlad

The Guardian 04/05/2022
Mawn

Mae ymgais i wahardd gwerthu mawn yn Iwerddon wedi codi gwrychyn pobl sydd yn parhau i gasglu'r ffynhonnell draddodiadol hon o ynni yn y wlad.

Mae gweinidog yr amgylchedd llywodraeth y Weriniaeth wedi gorfod gwneud tro pedol ar y penderfyniad am y tro, gyda'r taoiseach, Micheál Martin, yn cyhoeddi na fydd gwaharddiad yn dod i rym eleni.

O ganlyniad i'r camau gwleidyddol yn Nulyn i geisio atal pobl rhag gwerthu mawn, mae dadl wedi codi am ynni cynaliadwy yn y wlad, dulliau traddodiadol o warchod cefn gwlad, a'r angen i gwtogi ar allyriadau carbon.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.