Yr AS Neil Parish yn ymddiswyddo'n swyddogol wedi iddo wylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol, Neil Parish, wedi ymddiswyddo'n swyddogol wedi iddo wylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin.
Cafodd ymchwiliad ei lansio'r wythnos diwethaf yn dilyn honiadau bod aelod o'r Ceidwadwyr wedi gwylio pornograffi yn ystod sesiwn yn San Steffan.
Fe wnaeth Mr Parish, sydd wedi cynrychioli Tiverton a Honiton ers 2010, gyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo dros y penwythnos wedi iddo gael ei enwi fel yr AS oedd yn destun ymchwiliad.
Mae'n golygu bydd isetholiad nawr yn cael ei gynnal yn ei etholaeth.
Darllenwch fwy yma.