Yr Undeb Ewropeaidd i wahardd mewnforio olew o Rwsia

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi cynllun i wahardd mewnforio olew o Rwsia erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd gan aelodau'r Undeb chwe mis i ddarganfod ffynonellau eraill o olew cyn i embargo llym ar olew o Rwsia ddod i rym, wrth i'r gwrthdaro barhau yn Wcráin.
Daw'r cyhoeddiad fel rhan o nifer o sancsiynau newydd yn erbyn Rwsia gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn cynnwys targedu swyddogion milwrol sydd wedi'u cyhuddo o droseddau rhyfel yn Bucha a Mariupol.
Bydd tair sianel deledu Rwsiaidd hefyd yn cael eu gwahardd rhag darlledu yng ngwledydd yr Undeb, ac mae cynlluniau i wahardd banc mwyaf Rwsia, Sberbank, o'r system fancio ryngwladol Swift.
Dyw'r sancsiynau heb eu cymeradwyo gan aelodau'r Undeb eto.
Darllenwch fwy yma.