Newyddion S4C

Carcharu dyn am yrru 100 milltir yr awr drwy bentrefi yn Sir Gâr

04/05/2022

Carcharu dyn am yrru 100 milltir yr awr drwy bentrefi yn Sir Gâr

Mae dyn 31 oed wedi'i garcharu am 14 mis am yrru'n beryglus wedi iddo ddifrodi tri char heddlu wrth geisio ffoi yn Sir Gaerfyrddin. 

Fe wnaeth Jamie Adams, o Deras Kimberely yn Georgetown, Tredegar, yrru i ffwrdd o'r heddlu wedi iddynt geisio stopio ei gar ar ffordd yr A477 yn oriau man bore Mawrth, 12 Ebrill. 

Fe wnaeth Mr Adams ffoi o'r heddlu am 20 milltir, gan gyrraedd cyflymder o 100 milltir yr awr trwy ardaloedd Llanteg, Rhosgoch a Phentywyn. 

Wrth i swyddogion ceisio stopio ei gar, fe wnaeth Mr Adams daro tri char heddlu, gan achosi difrod sylweddol. 

Fe lwyddodd yr heddlu i chwalu teiars Mr Adams, ond parhaodd i ffoi ar hyd yr A40. 

Cafodd ei gar ei stopio ger Caerfyrddin ac fe gafodd Mr Adams ei arestio am yrru'n beryglus. 

Plediodd Mr Adams yn euog i yrru'n beryglus yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener gan dderbyn dedfryd o 14 mis o garchar. 

Mae Mr Adams hefyd wedi'i atal rhag gyrru am bedair blynedd a hanner. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.