‘Angen gwneud mwy o waith i recriwtio athrawon Asiaidd, Du ac Ethnig Leiafrifol’

Mae ymgynghorydd addysg yn dweud bod angen gwneud mwy o waith i recriwtio athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae Abu-Bakr Madden Al-Shabazz yn aelod o’r gweithgor fu’n adolygu’r adnoddau dysgu yn y cwricwlwm newydd sy’n ymwneud â Chymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobol Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Dywedodd Mr Al-Shabazz: “Mae gan nifer ohonyn nhw y sgiliau ond dydyn nhw ddim yn cael eu penodi ar gyfer y swyddi strategol hyn.
“Dw i wedi bod yn gweithio yn y gyfundrefn addysg ers 30 mlynedd, a 'dw i erioed wedi cael swydd lawn amser mewn unrhyw ysgol.
“Mae disgyblion hyd yn oed yn galw am fwy o athrawon o gefndiroedd lleiafrifol yn eu hysgolion, felly mae hyn yn rhywbeth y mae nifer o’r disgyblion eisiau ei weld.”
Darllenwch y stori'n llawn gan Golwg.360.