Newyddion S4C

Gweithwyr casglu sbwriel Rhondda Cynon Taf i bleidleisio dros streicio

Nation.Cymru 03/05/2022
Bins

Bydd gweithwyr casglu sbwriel yn Rhondda Cynon Taf yn pleidleisio dros fynd at streic wythnos yma, gan ddadlau nad yw eu hymdrechion dros y pandemig yn cael eu cydnabod ddigon. 

Mae'r undeb llafur GMB wedi cadarnhau bydd y bleidlais ar weithredu diwydiannol yn agor ddydd Iau ac yn para tan 26 Mai. 

Dywedodd yr undeb fod aelodau am weld newidiadau i'r cynllun gwerthuso swyddi gan honni nad yw gweithwyr hanfodol yn derbyn digon o arian o dan y system bresennol.

Yn ôl GMB, mae gweithwyr yr awdurdod lleol wedi gweld eu cyflogau'n gostwng 25% dros y degawd diwethaf. 

Os bydd aelodau'r undeb yn pleidleisio o blaid gweithredu'n ddiwydiannol, bydd 130 o weithwyr yn mynd ar streic gan effeithio ar dros 100,000 o gartrefi yn y sir. 

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod yn cydweithio gydag undeb GMB i geisio dod i gytundeb newydd. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.