Ronnie O'Sullivan yn ennill ei seithfed Bencampwriaeth Snwcer y Byd

Mae Ronnie O'Sullivan wedi ennill ei seithfed Bencampwriaeth Snwcer y Byd.
Llwyddodd y 'Roced' i drechu Judd Trump 18-13 yn y rownd derfynol yn y Crucible yn Sheffield.
Mae'n golygu bod O'Sullivan nawr yn rhannu'r record am y nifer fwyaf o bencampwriaethau iddo ennill gyda Stephen Hendry.
Ar ôl sicrhau'r fuddugoliaeth, dywedodd O'Sullivan mai dyma ei "ganlyniad gorau erioed". Dywedodd ei fod yn bwriadu trio eto'r flwyddyn nesaf gan geisio torri'r record gyda'i wythfed bencampwriaeth.
Darllenwch fwy yma.
Llun: DeHexer