Dirwy o £40,000 i gwmni ailgylchu o Gaerdydd am droseddau amgylcheddol

Atlantic Recycling Ltd

Mae cwmni ailgylchu o Gaerdydd wedi derbyn dirwy o £40,000 am droseddau amgylcheddol.

Fe gafodd Atlantic Recycling Ltd eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am dorri amod trwydded ar gyfer safle gwastraff yn y brifddinas.

Fe dderbyniodd y cwmni'r ddirwy ar ôl pledio'n euog i drosedd o fethu â chydymffurfio ag amod eu trwydded o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.

Mae David Neal, dyn a gefnogodd ymgyrch arweinyddol cyn Brif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn 2024, yn un o gyfarwyddwyr y cwmni.

Fe gafodd Vaughan Gething ei gwestiynu am rodd gan David Neal cyn iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ym mis Mehefin 2024. Fe ymddiswyddodd yn fuan wedyn.

Yn ogystal â'r ddirwy o £40,000 bydd yn rhaid i Atlantic Recycling Ltd dalu £28,000 mewn costau i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd y drosedd gan Atlantic Recycling Ltd yn golygu fod y perygl o dân ar y safle, sy’n storio Tanwydd sy’n Deillio o Wastraff sy’n hynod losgadwy. 

Mae tanau difrifol eisoes wedi digwydd ar y safle yng Nghaerdydd yn 2014 ac yn 2015, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd y drosedd yn cynnwys: uchder y pentyrrau gwastraff yn fwy na’r terfyn o 4 metr; pellter gwahanu rhwng pentyrrau gwastraff yn llai na’r 12 metr gofynnol; a methiant i ddarparu ardal gwarantîn digon mawr i ddal 50% o’r pentwr gwastraff mwyaf

Fe wnaeth y cwmni barhau i dderbyn gwastraff ychwanegol ym mis Gorffennaf 2019, er iddyn nhw gytuno â Chyfoeth Naturiol Cymru i beidio.

O ganlyniad fe wnaethon nhw fethu â chynnal yr ardal gwarantîn gofynnol i reoli’r perygl tân ar y safle.

Fe aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ymlaen i ddweud bod y troseddau'n cael eu hystyried yn fwy difrifol yn sgil euogfarnau blaenorol.

Roedd gan y cwmni hefyd hanes o ddiffyg cydymffurfio, meddai'r rheoleiddiwr amgylcheddol.

'Cyfrifoldeb aruthrol'

Dywedodd y Barnwr Celia Hughes: "Ar ôl cryn amser llys yn adolygu’r dystiolaeth yn yr achos hwn, rwy’n teimlo rhyddhad y gallaf ddedfrydu’r cwmni hwn am dri achos yn unig o dorri eu trwydded amgylcheddol, yn hytrach nag am drosedd lawer mwy dybryd.

"Roedd perygl i’r cwmni achosi canlyniadau amgylcheddol difrifol trwy dorri corneli, drwy anwybyddu ei Gynllun Atal a Lliniaru Tân ei hun a’r gofynion a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed ar ôl cael eu rhybuddio am eu hymddygiad.

"Mae’n ffodus na arweiniodd y drosedd at unrhyw beth mwy difrifol, ac rwyf wedi cael gwybod bod y cwmni bellach wedi cymryd mwy o gamau i gydymffurfio â’u cyfrifoldeb aruthrol i redeg busnes diogel ac amgylcheddol sensitif yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.