Ffliw: Llacio rheol gwisgo masgiau yn ysbytai'r gogledd

Masg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi llacio rheol gwisgo masgiau wyneb yn eu hysbytai yn y gogledd.
 
Ym mis Rhagfyr roedd y bwrdd iechyd wedi gofyn i gleifion, ymwelwyr a staff i wisgo masgiau o achos cynnydd yn nifer yr achosion o ffliw.
 
Roedd hynny'n golygu bod yn rhaid i unrhyw oedd yn mynd i adrannau achosion brys neu leoliadau derbyn, asesu a brysbennu (triage) wisgo masg.
 
Ond dywedodd y bwrdd iechyd mewn datganiad nos Fercher bod y rheol bellach wedi dod i ben yn sgil gostyngiad yn nifer yr achosion o ffliw yn eu hysbytai. 
 
"Mae ein timau wedi gweld gostyngiad parhaus yn nifer y cleifion sy'n profi'n bositif am y ffliw dros y dyddiau diwethaf," meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.
 
"Byddwn yn hoffi diolch i aelodau'r cyhoedd a'n staff am eu cefnogaeth."
 
Er nad oes rhaid i bobl wisgo masgiau ddim mwy, mae'r bwrdd iechyd wedi gofyn i'r cyhoedd i barhau i fod yn ofalus.
 
Dylai pobl sy'n sâl gyda pheswch, annwyd, dolur gwddf, neu dymheredd uchel osgoi ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty.
 
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n chwydu neu â dolur rhydd aros o leiaf 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben cyn ymweld ag un o'r ysbytai.
 
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn annog pobl i gael brechlynnau rhag y ffliw a Covid-19, er mwyn lleihau lledaeniad y firysau yn y gymuned.
 
Dylai'r rhai sy'n mynd i'r ysbytai olchi eu dwylo, neu ddefnyddio diheintydd dwylo yn rheolaidd, yn enwedig cyn mynd i ward neu leoliad clinigol.
 
A'r cyngor yw peidio ag eistedd ar welyau cleifion, neu ddefnyddio toiledau cleifion.
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.