Newyddion S4C

Etholiadau lleol: Beth yw addewidion y pleidiau?

03/05/2022
Newyddion S4C - Etholiadau lleol

Deuddydd yn unig sydd i fynd tan yr etholiadau lleol, pan fydd pobl yn y rhan fwyaf o Gymru yn pleidleisio ar gyfer eu cynrychiolwyr mewn llywodraeth leol.

Mae Newyddion S4C wedi cwmpasu addewidion y prif bleidiau cyn i bobl fwrw eu pleidlais ddydd Iau.

Llafur

Mae Llafur Cymru yn dweud eu bod yn cynorthwyo pobl gyda'r cynnydd mewn costau byw gan ehangu cinio ysgol am ddim a darparu brecwast am ddim mewn ysgolion.

Maen nhw hefyd yn cynorthwyo rhieni gyda chostau anfon plant i'r ysgol a chynorthwyo gyda biliau treth y cyngor.

Yn ôl y blaid, maen nhw hefyd yn rhoi'r fargen orau i fyfyrwyr o holl rannau'r Deyrnas Unedig ac yn ymestyn cynnig gofal plant i rieni mewn hyfforddiant ac addysg.

Mae'r blaid hefyd yn dweud y byddan nhw'n chwarae eu rhan i ddarparu ynni i gymunedau Cymru drwy ddulliau adnewyddadwy.

Image
Mark Drakeford
Mae Mark Drakeford wedi bod yn arweinydd ar Lafur Cymru ers 2018.

Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn dweud y byddan nhw'n ymestyn cynllun Cinio Ysgol Am Ddim i holl ddisgyblion ysgol uwchradd Cymru yn ystod tymor nesaf y cynghorau.  Maen nhw'n addo hefyd darparu gofal plant am ddim i holl blant dwy oed.

Yn ôl y blaid, maen nhw am warchod aelwydydd rhag y cynnydd yng nghostau byw ac annog pobl i brynu cynnyrch Cymreig a chynnyrch lleol.  Maen nhw am ehangu cefnogaeth i fusnesau a chreu swyddi newydd ac adnewyddu canol trefi fel llefydd bywiog i siopa, gweithio a byw.

Mae'r blaid hefyd am weithio tuag at ddêl well ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol a chynyddu mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl.

Annog mwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy, dan berchnogaeth cymunedau yng Nghymru a datblygu systemau trafnidiaeth fwy gwyrdd yn seiliedig ar angen lleol yw rhai o bolisïau eraill y blaid.

Image
Adam Price
Adam Price yw arweinydd Plaid Cymru - a hynny ers 2018.

Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddan nhw'n cefnogi cymunedau i warchod gwasanaethau lleol drwy Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, gan alluogi cymunedau i brynu cyfleusterau megis y dafarn leol, siop neu lyfrgell.

Byddan nhw hefyd yn cefnogi busnesau a chymunedau i annog buddsoddiad a chreu swyddi ar gyfer pobl leol a sicrhau buddsoddiad mewn ffyrdd er mwyn lleihau tyllau.

Dywed y blaid y byddan nhw hefyd yn cyd-weithio â'r heddlu ac eraill er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fel graffiti a gadael sbwriel mewn mannau cyhoeddus.

Mae'r blaid hefyd yn awyddus i weld mwy o gydweithio rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG i warchod pobl fwyaf bregus cymdeithas a chefnogi cymunedau i gadw cyfleusterau hamdden ar agor i annog iechyd corfforol a meddyliol.

Image
Andrew RT Davies
Mae Andrew RT Davies yn arweinydd ar Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ers 2021.

Democratiaid Rhyddfrydol

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am gefnogaeth ariannol i osod pympiau gwres ac inswleiddio mewn cartrefi sy'n defnyddio olew neu drydan i'w gwresogi, er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng costau byw. 

Yn ôl ymchwil gan y blaid, dyw tua chwarter o gartrefi yng Nghymru ddim yn defnyddio nwy i wresogi eu tai, gan ddibynnu ar ddefnyddio olew neu drydan. 

Image
Jane Dodds
Jane Dodds yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ers 2017.

Annibynwyr

Fe fydd nifer o ymgeiswyr Annibynnol hefyd yn sefyll yn yr etholiadau ddydd Iau.

Mae polisïau'r ymgeiswyr yn amrywio fesul ymgeisydd, ac weithiau mae ymgeiswyr annibynnol yn canolbwyntio ar faterion lleol sy'n bwysig i'r gymuned.

Yn y gorffennol, ar rai cynghorau, mae ymgeiswyr Annibynnol wedi dod at ei gilydd i ffurfio grŵp annibynnol ar y cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.