Apêl am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys
02/05/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad un cerbyd ym Mhowys.
Cafodd swyddogion eu galw i'r gwrthdrawiad ar ffordd y B4568 rhwng Aberhafesp a'r Drenewydd am tua 4:50 fore Llun.
Cafodd y cerbyd, Ford Fiesta glas, ei ddarganfod ar ei do.
Roedd gwasanaethau brys eraill hefyd yn bresennol, ond bu farw'r unig berson yn y cerbyd yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r unigolyn wedi eu hysbysu ac yn derbyn cefnogaeth.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod DP-20220502-062.