Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth yng Nghastell-nedd
Mae dyn wedi ymddangos mewn llys ddydd Llun wedi ei gyhuddo o lofruddio Timothy Dundon a oedd yn 66 oed yng Nghastell-nedd.
Fe wnaeth Emmett Morrison, 38 oed o Heol Catwg, yn ardal Caewern yng Nghastell-nedd ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore Llun.
Ni chafodd ple ei chyflwyno yn ystod y gwrandawiad byr, a chafodd Emmett Morrison ei gadw yn y ddalfa. Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.
Cafodd corff Mr Dundon ei ddarganfod mewn tŷ yn Heol Catwg yng Nghastell-nedd ar 27 Ebrill.
Rhagor o fanylion yma