Caerdydd yr ail ddinas harddaf yn y DU i ddeffro ynddi

Caerdydd yw'r ail ddinas harddaf yn y Deyrnas Unedig i ddeffro ynddi, yn ôl ymchwil newydd gan grŵp gwestai Premier Inn.
Defnyddiodd ymchwilwyr ddata o'r cyfrwng Instagram er mwyn dod o hyd i‘r ddinas sydd â'r mwyaf o luniau wedi'u cyhoeddi o dan yr hashnod #goodmorning.
Llundain sydd ar frig y rhestr o luniau boreol ar Instagram yn y DU, ac yn fyd-eang, gyda dros 39,630 o luniau o dan yr hashnod #goodmorningLondon, tra bod Caerdydd yn yr ail safle yn y DU, gyda dros 1,850 o hashnodau.
Y lleoliadau mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd ar gyfer lluniau cynnar yn y bore yw Bae Caerdydd, Castell Caerdydd ac Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Darllenwch y stori'n llawn gan Nation.Cymru.