Newyddion S4C

Teyrnged teulu i 'angel fach' fu farw mewn gwrthdrawiad

North Wales Live 02/05/2022
v4

Mae teulu o'r gogledd ddwyrain wedi rhoi teyrnged i'w merch 13 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Magillt ar 22 Ebrill.

Bu farw Lacie Roberts a dyn yn y gwrthdrawiad ger campfa LyonsDen yn y dref, ac fe gafodd tri unigolyn arall anafiadau difrifol.

Roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Fflint.

Wrth roi teyrnged i Lacie ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei mam, Kieley Messham, fod y digwyddiad wedi dryllio'r teulu.

"Mae ein Lacie Jade Roberts wedi ei chymryd oddi wrthym yn llawer rhy gynnar", meddai.

Mae ymgyrch godi arian wedi ei chynnal yn lleol er mwyn cyfrannu at gostau angladdol Lacie Roberts.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.