Gweithdrefnau Plaid Cymru yn 'methu menywod' yn ôl y cyn-arweinydd Leanne Wood

Gweithdrefnau Plaid Cymru yn 'methu menywod' yn ôl y cyn-arweinydd Leanne Wood
Mae gweithdrefnau mewnol Plaid Cymru “yn methu menywod’ yn ôl cyn-arweinydd y blaid, Leanne Wood.
Dywedodd yr Arweinydd presennol Adam Price nad oedd gan gwrthrhywiaeth “unrhyw le yn ein gwleidyddiaeth.”
Mewn erthygl ar gyfer The National, ychwanegodd Ms Wood “ni ddylai fod ffordd yn ôl” i gyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards.
Cafodd Mr Edwards ei wahardd o Blaid Cymru am 12 mis yng Ngorffennaf 2020 ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod.
Mae Mr Edwards, sy’n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn Aelod Seneddol annibynnol ar ôl iddo beidio ail-ymuno â’r Blaid.
Darllenwch fwy yma.