Newyddion S4C

Mesurau cadw dofednod yn sgil ffliw adar yn dod i ben

Ffliw adar

Mae mesurau cadw dofednod ac adar caeth a ddaeth i rym er mwyn rheoli lledaeniad ffliw adar yn dod i ben ddydd Llun.

Mae hyn yn golygu na fydd hi bellach yn ofynnol i ddofednod ac adar caeth eraill gael eu cadw o dan do.

Yr unig eithriad fydd os byddant mewn Porth Gwarchod.

Mae’r risg ffliw adar erbyn hyn wedi ei leihau i lefel canolig ar gyfer safleoedd â bioddiogelwch gwael.

Cyhoeddwyd y penderfyniad yn dilyn asesiad risg gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru.

Bydd pwyslais yn parhau ar sicrhau gofynion bioddiogelwch estynedig oherwydd bod posibilrwydd y gallai’r haint barhau yn yr amgylchedd am wythnosau i ddod.

Mae’r rheiny sy’n bwriadu rhyddhau eu hadar yn yr awyr agored yn cael eu hannog i baratoi'r mannau allanol yn gywir, gydag argymhellion megis diheintio arwynebau caled a ffensio pyllau yn cael eu cynghori. 

Ers diwedd mis Hydref, mae dros 100 o achosion ffliw adar wedi eu cofnodi yn y DU.

'Bioddiogelwch craff yn hanfodol'

Dywedodd Prif Swyddogion Milfeddygol y DU mewn datganiad ar y cyd mai “bioddiogelwch craff yw'r ffordd fwyaf hanfodol o hyd i helpu i gadw'ch adar yn ddiogel” wrth i fesurau gael eu codi.

Er bod mesurau yn cael eu codi yn sgil “gwaith caled yr holl geidwaid adar a milfeddygon, mae'r achosion diweddar o ffliw adar yn dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i geidwaid adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd a chynnal safonau bioddiogelwch llym."

Dim ond y mesurau lletya fydd yn cael eu codi, gyda’r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ledled y DU.

Mae ceidwaid dofednod ac adar caeth yn cael eu hannog i ofyn am gyngor gan eu milfeddyg ar unwaith os oes unrhyw amheuaeth o’r clefyd yn eu hadar.

Maent hefyd yn cael eu hannog i gofrestru eu diadelloedd gydag APHA, sy’n ofyniad cyfreithiol oes ganddynt fwy na 50 o ddofednod.

Mae’r risg i iechyd y cyhoedd yn parhau yn isel iawn, gyda risg ffliw adar yn isel iawn o ran diogelwch bwyd yn y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.