
Tirlithriad sylweddol ar draeth Nefyn yng Ngwynedd
Tirlithriad sylweddol ar draeth Nefyn yng Ngwynedd
Mae tirlithriad sylweddol wedi achosi i bridd a cherrig ddisgyn ar draws traeth Nefyn ym Mhen Llŷn ddydd Llun.
Mae’r traeth yn gyrchfan boblogaidd gyda cherddwyr ag ymwelwyr.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi galw ar bobl sydd wedi teithio yno i dynnu lluniau i gadw draw.
Mae’r gwasanaethau brys a chwmnïau ynni wedi bod yno ac yn ceisio diogelu’r safle meddai llefarydd.

Roedd y tirlithriad wedi lledaenu o glogwyn cyfagos ac i mewn i’r môr.
Mae rhan o erddi tai ar ben y clogwyn wedi dymchwel o ganlyniad i'r tirlithriad ac mae'n debyg fod pobl wedi cael rhybudd i adael eu cartrefi am y tro.
Mae Merfyn Jones yn byw ar ben y clogwyn, ac wedi rhannu gyda Newyddion S4C ei sioc o weld yr olygfa yng ngwaelod ei ardd.

“’Do’ ni’m yn disgwl hyn bora ‘ma pan godish i. Ges i alwad ffôn ac o'n i'n meddwl mai joc odd o. Ond pan ddos i yma, oedd o'n dipyn mwy o joc dweud gwir."
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad cychwynnol "yn ei le."
"Yn y cyfamser, rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i gadw’n glir ac i beidio mynd yn agos i’r ardal cwymp ar hyn o bryd."


