Newyddion S4C

Llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr yr UDA yn ymweld â Kyiv

Sky News 01/05/2022
Nancy pelosi yn Kyiv

Mae Llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr Unol Daleithiau America wedi ymweld â phrifddinas Wcráin.

Mewn cyfarfod gydag Arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky, dywedodd Nancy Pelosi: “Mae eich brwydr chi yn frwydr i bawb.

“Ein hymrwymiad yw bod yno i chi hyd nes bydd y frwydr ar ben.”

Mae Llysgennad y DU hefyd wedi dychwelyd i Kyiv.

Dywedodd Melinda Simmons ei bod hi’n teimlo’n “gyffyrddus’ i fod nôl er ei bod hi’n ymwybodol o’r risg.

Mae nifer o fenywod a phlant wedi cael gadael gwaith dur ym Mariupol yn nwyrain y wlad bnos Sadwrn a dydd Sul.  Yn ôl adroddiadau, mae tua 1,000 o ddinasyddion yn dal i fod yno.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.