Pryderon fod gwaith ffordd yn Llantrisant yn niweidio busnesau'r dref
Pryderon fod gwaith ffordd yn Llantrisant yn niweidio busnesau'r dref
Mae busnesau yn Llantrisant yn poeni fod cyflwyno system unffordd dros dro yn mynd i rwystro pobl rhag ymweld â'r dre a hynny ar ôl dwy flynedd anodd o ymdopi gydag effeithiau Covid.
Mae'r system wedi ei chyflwyno er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar wal yn stryd fawr y dre.
Mae disgwyl i'r gwaith barhau am bedwar mis.
Mae'r gwaith yn golygu nad oes modd cyrraedd o gyfeiriad Tonysguboriau a bod rhaid mynd drwy bentre Beddau neu drwy barc busnes Llantrisant ac ar hyd y Comin.
Mae Dean Powell, rheolwr Canolfan dreftadaeth Neuadd y Dre yn poeni am amseriad y gwaith.
Dywedodd: "Nethon ni agor ym mis Awst 2019 ac ymhen chwe mis oedd Covid wedi dod, so am ddwy flynedd ni di bod ynghau. Nawr ni wedi agor eto ac yn dechrau mynd nol fel oedden ni, wrth gwrs mae hwn yn mynd i gael effaith ar faint o ymwelwyr byddwn ni'n gallu denu bob wythnos
“Mae llefydd fel Llantrisant yn dibynnu lot ar ymwelwyr a beth mae'r system yn neud yw helpu pobl i adael y dre ond dyw e ddim yn annog pobl i ddod mewn. Falle ddyle'r system fod y ffordd arall o gwmpas.
“Os yw pobl yn cael trafferth dod fewn a fyddan nhw'n trafferthu dod nol, mae busnesau'n gweld effaith yn barod"
Mae pobl leol yn derbyn bod rhaid gwneud y gwaith ar y wal yn enwedig pobl fel Dewi Gregory sy'n byw gerllaw.
"Mae'r wal yna'n beryglus, oedd e'n mynd i gwympo a galle fe fod wedi lladd rhywun felly mae'n well bod nhw'n trwsio fe. Maen nhw'n mynd i ail neud e yn yr un cerrig, maen mynd i edrych yn hardd iawn ac yn y cyfamser mae ychydig bach o dawelwch gyda ni sydd wrth gwrs yn beth da i fi ond fi yn cydymdeimlo'n fawr iawn gyda'r busnesau yn y dre sy'n diodde"
Wrth ymateb i'r pryderon mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud fod yn rhaid iddyn nhw weithio ar y wal fesul rhan, fel arall fe fydden nhw wedi gorfod dymchwel y wal ac o bosibl cau'r ffordd yn llwyr.