Yr AS Ceidwadol Neil Parish yn dweud ei fod wedi gwylio pornograffi 'drwy ddamwain'

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Neil Parish yn awgrymu ei fod wedi agor fideo pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin yn ‘ddamweiniol’.
Mae Mr Parish o dan ymchwiliad yn dilyn honiadau gan grŵp o ASau Ceidwadol benywaidd i'r Prif Chwip, Chris Heaton-Harris ei fod wedi gwylio pornograffi yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae'r Blaid Geidwadol wedi tynnu'r chwip oddi wrth yr AS dros Tiverton a Honiton yn Nyfnaint, a'i wahardd o'r blaid yn sgil yr ymchwiliad.
Fe wnaeth Mr Parish gyfeirio ei hun at Bwyllgor Safonau'r Tŷ, ac mae wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo fel Aelod Seneddol.
Dywedodd y bydd yn parhau gyda’i ddyletswyddau fel AS tra’n “cydweithio’n llwyr” gyda’r ymchwiliad.
Darllenwch fwy yma.