Newyddion S4C

Boris Becker

Dedfryd o garchar i'r cyn-chwaraewr tennis Boris Becker

Mirror 29/04/2022

Mae’r cyn-chwaraewr tennis Boris Becker wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o bedwar cyhuddiad yn ymwneud a bod yn fethdalwr.

Fe gafwyd yr Almaenwr yn euog o guddio nifer o asedau, gan gynnwys bron i £700,000, a 75,000 o gyfranddaliadau mewn cwmni technoleg a rhai o'i dlysau tennis mwyaf gwerthfawr - gan gynnwys dau dlws Wimbledon, yn gynharach yn y mis.

Roedd yn ofynnol i Becker i ddatgelu ei holl asedau ar ôl cael ei ddatgan yn fethdalwr bum mlynedd yn ôl.

Mae disgwyl y bydd Becker yn treulio hanner ei ddedfryd dan glo, a'r hanner arall ar drwydded.

Darllenwch fwy yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.