Starmer: Bygythiad tariff Trump dros yr Ynys Las yn 'hollol anghywir'

trump starmer.png

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud bod cynllun Donald Trump i osod tariffau ar gynghreiriaid y DU ac Ewrop nes bod cytundeb i’r Unol Daleithiau brynu’r Ynys Las yn "hollol anghywir".

Fe gyhoeddodd Arlywydd yr UDA gynlluniau ddydd Sadwrn i osod tariffau o 10% ar nwyddau o’r DU a saith gwlad arall yn Ewrop hyd nes y bydd cytundeb i America brynu’r Ynys Las.

Mewn cyhoeddiad ar ei gyfryngau cymdeithasol Truth Social dywedodd Mr Trump fe fydd tariffau o 10% ar “y cyfan neu unrhyw nwyddau” fydd yn cael eu hallforio i’r UDA o 1 Chwefror.

Ychwanegodd Mr Trump fe fydd y tariffau mewn grym tan “yr adeg y cyrhaeddir bargen ar gyfer prynu’r Ynys Las yn llawn ac yn chyflawn".

Fe wnaeth Syr Keir Starmer ailadrodd ei safbwynt bod yr Ynys Las yn rhan o Ddenmarc a bod ei dyfodol yn fater i'r ddau yn unig ei benderfynu.

"Rydym hefyd wedi egluro bod diogelwch yr Arctig yn bwysig i NATO gyfan a dylai cynghreiriaid i gyd wneud mwy gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r bygythiad gan Rwsia ar draws gwahanol rannau o'r Arctig," meddai.

"Mae gosod tariffau ar gynghreiriaid am ddilyn diogelwch cyfunol cynghreiriaid NATO yn hollol anghywir. 

"Byddwn wrth gwrs yn mynd ar drywydd hyn yn uniongyrchol gyda gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau."

Mae miloedd o bobl wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau Mr Trump ar strydoedd Yr Ynys Las a Denmarc.

Mae arweinwyr gwledydd Ewrop hefyd wedi bod yn ymateb.

Dywedodd Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron: "Mae bygythiadau tariff yn annerbyniol yn y cyd-destun hwn... Ni fyddwn yn cael ein dylanwadu gan unrhyw fygythiad."

Fe ddywedodd Prif Weinidog Sweden, Ulf Kristersson: "Ni fyddwn yn gadael i ni ein hunain gael ein blacmelio."

Ac mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen yn dweud bod "uniondeb tiriogaethol a sofraniaeth yn egwyddorion sylfaenol cyfraith ryngwladol.

"Byddai tariffau'n tanseilio cysylltiadau trawsatlantig ac yn peryglu troell beryglus ar i lawr.”

Fe fydd Mr Trump yn wynebu von der Leyen ac arweinwyr Ewropeaidd eraill fel Macron yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, y Swistir yr wythnos nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.