Newyddion S4C

Dyn yn euog o ddynladdiad ei gyfaill mewn ymosodiad yn Sir Benfro

29/04/2022
Nathaniel Nuttall

Mae dyn wedi ei gael yn euog o ddynladdiad yn Llys y Goron Abertawe ar ôl lladd ei gyfaill mewn ymosodiad yn Sir Benfro.

Fe ymosododd Nathaniel Nuttall, 32 oed, o Monkton, Penfro, ar ei gymydog Lee Thomas yn ei gartref ar 13 Hydref 2021.

Yn dilyn yr ymosodiad, fe alwodd Nuttall am ambiwlans.

Mewn galwad i'r gwasanaethau brys, dywedodd fod Mr Thomas wedi ymosod arno cyn iddo'i "daro sawl gwaith yn ei wyneb a stampio ar ei wyneb nifer o weithiau."

Yn dilyn yr alwad fe gysylltodd y Gwasanaeth Ambiwlans gyda Heddlu Dyfed-Powys, ac fe aeth swyddogion i leoliad yr ymosodiad gan ddarganfod Mr Thomas yn anymwybodol ar lawr yn gorwedd mewn pwll o waed.

Cafodd ei gludo i uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw ar 10 Tachwedd 2021.

Roedd Mr Thomas yn dioddef o nifer o gyflyrau iechyd ac roedd Nuttall wedi honni ei fod yn "ofalwr answyddogol" iddo.

Yn dilyn y dyfarniad, dywedodd yr Uwch-arolgydd Estelle Hopkin-Davies o Heddlu Dyfed-Powys: "Fe geisiodd Nuttall ddadlau ei fod yn amddiffyn ei hun ond roedd maint yr anafiadau oedd wedi eu dioddef gan y dioddefwr, oedd wedi dioddef ergydion i'w ben sawl gwaith tra roedd yn gorwedd ar lawr ei ystafell fyw, ddim yn cydfynd gyda'i honiadau.

"Roedd hwn yn ymosodiad difrifol ac estynedig arweiniodd at farwolaeth dyn 41 oed.

"Yr hyn sydd yn gwneud yr achos yma yn un poenus yw fod Nuttall yn llwyr ymwybodol o broblemau iechyd a symudiad ei gyfaill ond aeth yn ei flaen i ymosod arno'n dreisgar. Rydym yn falch o fod wedi gallu sicrhau'r ddedfryd hon, fydd yn cynnig rhywfaint o gysur i deulu Mr Thomas."

Fe fydd Nuttall yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 6 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.