Newyddion S4C

Priodasau hoyw yn yr Eglwys yng Nghymru: 'Byddwn ni'n edrych nôl ac yn gofyn beth oedd y ffws?'

Priodasau hoyw yn yr Eglwys yng Nghymru: 'Byddwn ni'n edrych nôl ac yn gofyn beth oedd y ffws?'

Newyddion S4C 29/04/2022

Ers mis Medi 2021, mae corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru wedi cefnogi caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig.

Wrth i Archesgob Cymru baratoi i gael ei orseddu'n swyddogol, mae'r Gwir Barchedicaf Andrew John yn parhau i gefnogi'r cam hanesyddol.

Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Dwi'n groesawgar o'r newid. Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig fod yr Eglwys yng Nghymru yn gynhwysol...bod 'na le i bawb fod yn rhan o'n bywyd ni,  felly dwi'n edrych ymlaen at weld faint o bobl fydd yn cael y math o fendith mae'r corff llywodraethol wedi sicrhau sy'n bosib i ni wneud.

"A dwi'n siwr yn y dyfodol, byddwn ni'n edrych nôl ac yn gofyn beth oedd y ffws. Mae wedi troi yn normal i ni."

'Pwysig teithio ymlaen'

Serch hynny, mae yna anhapusrwydd o hyd gan rai nad oes modd cynnal gwasanaethau priodasol eglwysig i bobl sydd mewn perthynas hoyw.

Ond gydag eraill yn dal i wrthwynebu'r cam i ganiatau gwasanaethau bendithio, mae Archesgob Cymru'n pwysleisio'r angen i droedio'n bwyllog. 

"Dwi'n credu bod e'n bwysig i ni deithio ymlaen. Roedd y cynnig yn un arbrofol. Mae'n rhaid i ni barchu'r ffaith fod 'na bobl yn erbyn," dywedodd. 

"Ond wrth i ni dyfu yn ein ffydd ac yn ein cred, dwi'n credu y bydd e'n dderbyniol ac yn normal."

Image
Andrew John
Mae'r Gwir Parchedicaf Andrew John yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys symud ymlaen

O ran caniatau priodasau i gyplau o'r un rhyw, mae gan Archesgob Cymru amserlen y mae'n ei hystyried. 

"Yn y dyfodol, bydd rhaid i ni gael y ddadl, ac ar ôl, falle cyn pum mlynedd, fe fyddwn ni'n cael y drafodaeth. Dwi'n edrych ymlaen at y ddadl hefyd."

Mae arweinwyr crefyddol yn draddodiadol wedi osgoi lleisio barn ar bynciau gwleidyddol y dydd, ond yn ddiweddar, mae Archesgob Caergaint Justin Wleby wedi hawlio'r penawdau.

Gan godi llais yn chwyrn yn erbyn polisi Llywodraeth San Steffan i anfon ffoaduriaid i Rwanda, fe ddisgrifiodd Archesgob Caergaint y cynllun fel un "sy'n groes i natur Duw".

Mae Archesgob Cymru yn cefnogi sylwadau Justin Welby.

Dywedodd: "Mae'n rhaid i'r Eglwys yng Nghymru gyfrannu at y sgwrs, a lle da ni'n gweld pethau sydd yn ddrwg, mae'n rhaid i ni alw allan y buchedd sydd ddim yn dderbyniol.

"Nid ein pwrpas ni yw i fod yn wleidyddion, ond i siarad am Efengyl Iesu Grist ac effaith yr Efengyl ar fywyd cyhoeddus.

"Felly dwi'n croesawu beth mae'r Archesgob wedi dweud ac yn cytuno gydag e."

'Dyfodol pobl Cymru'

Bydd Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, yn cael ei orseddu fel 14eg Archesgob Cymru mewn gwasanaeth cenedlaethol yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill.

Daw hyn yn dilyn cael ei ethol yn Archesgob ym mis Rhagfyr, ar ôl gwasanaethu fel Esgob Bangor ers 2008.

"Mae'n fraint gwasanaethu fel Archesgob Cymru" meddai.

"Bydd yna lot o blant yn y gwasnaaeth, a dyna'r cliw i'r math o wasanaeth ehagngach dwi am roi i Gymru.

"I gynnwys pobl ifanc yn enwedig, a'u denu nôl i'n heglwysi ni, gan ofyn iddyn nhw hefyd i'n harwain ni. Mae'r Eglwys yn bodoli, nid yn unig ar gyfer pobl o'n hoedran i, ond i blant, ar gyfer dyfodol pobl Cymru."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.