Cymru gyda'r nifer uchaf o achosion Covid-19 yn y DU er bod gostyngiad mewn niferoedd
Mae gan Gymru'r nifer uchaf o achosion Covid-19 o holl wledydd y Deyrnas Unedig er i'r nifer o heintiadau ddisgyn yn sylweddol.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae gan un ymhob 18 person yng Nghymru Covid-19 ar hyn o bryd.
Mae hyn yn cymharu ag un ymhob 25 yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Daw hyn wrth i ystadegau newydd ddangos bod y nifer o bobl gyda coronafeirws wedi gostwng ar y raddfa fwyaf erioed.
Yn ôl amcangyfrif yr ONS, fe wnaeth tua 2.87m o bobl brofi'n bositif am Covid-19 yn ystod y saith diwrnod hyd at 23 Ebrill, 900,000 yn llai na'r wythnos gynt.
Mae hefyd yn dangos bod heintiadau Covid-19 wedi gostwng yn sylweddol ymhlith pob un grŵp oedran.
Er hyn, dywedodd yr ONS fod heintiadau yn dal i fod yn uchel iawn ar draws y DU.