Dau weithiwr elusen o Brydain wedi eu cipio gan luoedd Rwsia yn Wcráin

Mae adroddiadau fore Gwener bod dau weithiwr elusen o Brydain wedi eu cipio gan luoedd Rwsia ar ôl teithio i Wcráin fel gwirfoddolwyr cymorth dyngarol.
Dywedodd yr elusen Presidium Network bod "dau ddyn, a oedd yn gweithio fel gwirfoddolwyr cymorth dyngarol, wedi cael eu cipio ddydd Llun mewn man archwilio i'r de o ddinas Zaporizhzhia."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol, Anne-Marie Trevelyan, bod y "swyddfa dramor yn gwneud popeth o fewn ei gallu i geisio cefnogi ac adnabod y ddau berson."
Daw hyn ddiwrnod yn unig ar ôl cadarnhad bod dyn o Brydain wedi ei enwi fel y person cyntaf o'r wlad i farw yn rhyfel Wcráin.
Darllenwch fwy yma.